'Mae'r ymgyrch arbennig yma yn chwyldroadol'
Gall ymgyrch sydd â'r nod o brofi miloedd o ddynion ar draws Cymru am arwyddion o ganser y prostad achub bywydau ac osgoi embaras, yn ôl elusen Prostate Cymru.
Cafodd llysgennad yr elusen a chyn-gyflwynydd tywydd S4C Chris Jones, ddiagnosis o gamau cynnar canser y prostad yn 2018.
Yma, mae'n dweud ei bod hi'n bwysig mynd am brawf PSA.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad y prawf penodol bob amser yw'r opsiwn cywir i ddynion heb symptomau canser y prostad.