'Rhaid i ni fownsio nôl' - Dewi Lake

Mae’n rhaid i garfan Warren Gatland fownsio nôl o'r golled yn erbyn Fiji ddydd Sul, medd capten Cymru Dewi Lake.

Y gêm agoriadol yng Nghyfres yr Hydref oed y 10fed gêm brawf yn olynol i Gymru ei cholli - sy'n gyfartal â rhediad gwaethaf Cymru erioed.

Dyw Cymru heb ennill gêm brawf ers trechu Georgia yng Nghwpan y Byd yn Nantes y llynedd - dros 400 diwrnod yn ôl.

Awstralia fydd eu gwrthwynebwyr nesaf yng Nghyfres yr Hydref, cyn i Dde Affrica gael eu croesawu i Gaerdydd.