'Colli Aaron Wainwright yn ergyd enfawr i Gymru'

Yn dilyn y grasfa ym Mharis ar noson agoriadol y Chwe Gwlad nos Wener, mae carfan Cymru yn treulio'r wythnos yn Nice cyn wynebu'r Eidal yn Rhufain brynhawn Sadwrn nesaf.

Ac mae'r penderfyniad i beidio dychwelyd i Gymru wedi ei groesawu gan gyn-capten Cymru, Ken Owens fel cyfle i'r chwaraewyr a'r tîm hyfforddi osgoi'r "bubble" a'r holl sylw yng Nghaerdydd.

Ond mae gan Owens bryderon ynglŷn â gallu Cymru i lenwi bwlch ar ôl i'r blaenwr Aaron Wainwright adael y cae gydag anaf i'w foch yn gynnar yn y gêm nos Wener.

Mae Owens yn disgrifio Wainwright fel chwaraewr gorau Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, a byddai ei absenoldeb yn Rhufain yn ergyd "enfawr" i Gymru.