Gareth Thomas: 'Pwysau' ar Gymru cyn gêm agoriadol y Chwe Gwlad
Mae prop Cymru a'r Gweilch, Gareth Thomas yn cyfaddef bod pwysau ar Gymru cyn gêm agoriadol pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym Mharis nos Wener.
Yn ôl Thomas, bydd y gêm yn erbyn Ffrainc yn her ond yn dweud ei fod o a'r garfan yn edrych ymlaen at chwarae o flaen 80,000 o gefnogwyr ar noson agoriadol y bencampwriaeth.
Wrth siarad gyda gohebydd rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies, dywedodd Gareth Thomas: "Gathon ni campaign eitha siomedig yn yr hydref a ni'n edrych mlaen i ddechre'r pencampwriaeth hyn.
"Bydd e yn her ond gewch chi ddim lot o llefydd gwell i chware rygbi nos Wener mas yn Paris... ma' cyfle gyda ni i daflu popeth ato fe."