Gwylio: Aros Am y Chwiban gan Adwaith

Llinell agoriadol y gân yw "aros am y cyfle yn amyneddgar iawn" ac yn wir mae Cymru, yn enwedig tîm y merched, wedi bod yn amyneddgar i gael cyrraedd pencampwriaeth fel Euro 2025.

Felly i nodi'r achlysur roedd rhaid cael anthem, ac fe aeth BBC Radio Cymru ar ofyn y triawd o Gaerfyrddin, Adwaith.

Roedd Adwaith yn awyddus i greu "rhywbeth oedd yn eich dal o'r cychwyn cyntaf, rhywbeth sy'n haeddu bod ar drac sain FIFA.

"Mae Aros am y Chwiban yn gân sy'n dathlu llwyddiant anhygoel tîm merched Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd y Euros. Mae'n mynd y tu hwnt i'r cae chwarae, gan ddathlu pa mor werthfawr yw bod yn rhan o dîm a gweithio mewn undod."

Cafodd y gân ei chyhoeddi yn gynharach yn mis Mehefin, ond nawr gyda dim ond dyddiau i fynd tan y bencampwriaeth mae fideo wedi'i gyhoeddi.

Cafodd rhan helaeth o'r fideo ei recordio yn Neuadd Ogwen, Bethesda yn ystod gig wedi'i drefnu gan Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dilyn cyhoeddi carfan Euro 2025 ar ben Yr Wyddfa. Perfformiodd Adwaith Aros Am Y Chwiban yn fyw am y tro cyntaf yn y gig hwnnw.

Fe weithiodd BBC Radio Cymru gyda un o sêr ifanc Clwb Pêl-droed Y Felinheli, Maddie, i adrodd stori sy'n gyfarwydd i gannoedd o blant a phobl ifanc ledled Cymru; y freuddwyd o gael cynrychioli eu gwlad yn y gamp maen nhw'n ei charu.

Fe ymddangosodd rhai o gyflwynwyr yr orsaf yn y fideo hefyd i ddangos yr amryw ffyrdd rydyn ni'n mwynhau pêl-droed a chefnogi Cymru. Chwarae pêl-droed fel Caryl Parry Jones a'i wyrion ym mharc y Knapp yn y Barri, mwynhau gêm dros beint gyda ffrindiau fel Aled Hughes ac Ifan Davies, a thrip siopa i brynu'r crys newydd fel Rhydian a Shelley.

Pa bynnag ffordd fyddwch chi'n cefnogi Cymru sicrhewch eich bod yn chwarae Aros Am Y Chwiban wrth wneud!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.