Tai fforddiadwy Môn: 'Gwrthwynebwyr efo tai yn barod'

Mae disgwyl i gynghorwyr ar Ynys Môn wneud penderfyniad ddydd Mercher ar gynlluniau i adeiladu bron i 60 o dai fforddiadwy ar yr ynys.

Bydd pwyllgor cynllunio'r sir yn trafod dau gais cynllunio sy'n cael eu hargymell i'w cymeradwyo, er gwaethaf peth gwrthwynebiad yn lleol.

Bwriad Cymdeithas Dai Clwyd Alyn a DU Construction yw adeiladu 27 o dai ger priffordd yr A55 yn Llanfairpwll, a 30 o dai yn Llandegfan.

Ond er bod gwrthwynebiad i’r datblygiadau, mae eraill yn gefnogol ac yn dweud bod mawr angen mwy o dai ar gyfer pobl leol yn yr ardal.

Mae Ffion Elin Davies, 26, yn wreiddiol o Lanfairpwll ond bellach yn byw ym Mhorthaethwy gyda'i theulu.

Dywedodd ei bod o blaid y cais a'i fod yn "beth da" bod tai fforddiadwy yn cael eu cynnig.

Ond mae Medwyn Roberts, ar ran Cymdeithas Amddiffyn Stad y Garnedd, yn dweud fod gwrthwynebiad cryf yn y pentref.