Ymateb cefnogwyr Wrecsam i drydydd dyrchafiad yn olynol

Mae Wrecsam wedi sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth ar ôl curo Charlton Athletic o dair gôl i ddim yn y STōK Cae Ras.

Dyma'r tro cyntaf i dîm yn haenau uchaf cynghrair Lloegr gael dyrchafiad tri thymor yn olynol.

Roedd angen buddugoliaeth ar Wrecsam i ennill y dyrchafiad awtomatig ddydd Sadwrn ar ôl i Wycombe Wanderers - sy'n drydydd yn y cynghrair - golli yn erbyn Leyton Orient yn gynharach yn y dydd.