Gwyliwch: Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd

Mae yna "stigma" ynghylch tlodi plant yng Nghymru, yn ôl pobl ifanc sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf.

Yn ei 103ydd flwyddyn, mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn gwneud "galwad frys" i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru.

Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi datgelu bod bron i un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Gwyliwch y neges yn ei chyfanrwydd uchod.