Tanau Los Angeles: 'Ma' popeth wedi mynd'
Mae Cymraes sy'n byw yn Los Angeles wedi gorfod ffoi o'i chartref wrth i'r tanau gwyllt achosi difrod sylweddol.
Mae Lynwen Hughes-Boatman, sy'n wreiddiol o Gaerffili, yn byw yn ardal Altadena ger Eaton - un o'r ardaloedd sydd wedi ei tharo waethaf.
Bellach, mae 180,000 o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi ac mae o leiaf 10 o bobl wedi marw ers dechrau'r tanau yn Los Angeles.
Ddydd Gwener fe wnaeth Lynwen Hughes-Boatman ddychwelyd i'w chartref am y tro cyntaf ers iddi orfod gadael oherwydd y tanau.
A hithau wedi byw yna ers 32 o flynyddoedd, dywedodd fod y sefyllfa "mor drist".
Er bod ei chartref hi yn saff dywedodd fod 'na ddifrod sylweddol i'r ardal.
"Ma' jyst popeth wedi mynd, lle fi'n siopa, lle fi'n mynd a merch fi i'r ysgol, y post office, mae popeth wedi mynd.
"Bydd Altadena byth yr un peth, byth," ychwanegodd.