Diwrnod VE: Un o 'Fechgyn Bevin' yn cofio'r cyfnod
Mae Cymro a gafodd ei anfon i weithio mewn pwll glo yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn dweud "nad oedd eisiau bod yna" ond bod ganddo ddim dewis.
Roedd Emrys Hughes, 98, yn gobeithio ymuno â'r llu awyr, ond roedd yn un o'r miloedd o fechgyn a dynion a gafodd eu gorfodi i fynd i'r pyllau glo.
Roedden nhw'n cael eu hadnabod fel 'Bechgyn Bevin'.
Dywedodd: "Doedd ganddoch chi ddim dewis ond mynd i'r pyllau glo a dyna ddigwyddodd i fi yn anffodus.
"O'ddach chi'n registro ac os o'dd y number yn gorffen efo 5 neu 0, o'dd rhaid i chi fynd lawr i'r pwll glo.
"Be' o'n i ddim yn deall oedd pam bod y miners eu hunain 'di cael eu gyrru i'r lluoedd arfog a gyrru ni yn eu lle nhw, yn gwybod dim byd am y pwll glo."