Hyrox: Y ras ffitrwydd sy'n dod i Gymru am y tro cyntaf

Wrth i gystadleuaeth ffitrwydd Hyrox ddod i Gymru am y tro cyntaf, mae athletwyr y brifddinas yn dweud bod y digwyddiad yn gyfle i "roi Caerdydd ar y map".

Bydd y digwyddiad 'rasio ffitrwydd' yn cael ei gynnal rhwng 30 Mai a 1 Mehefin yn Stadiwm Principality.

Yn ôl rheiny sy'n gobeithio cystadlu yn y brifddinas, mae pobl eisoes wedi dechrau paratoi, er nad yw'r tocynnau ar werth eto.

Ond beth ydy Hyrox? Dafydd Morgan sy'n esbonio.