O oroesi canser a sepsis i fod yn bencampwr seiclo

Ddeunaw mis ers goroesi math prin o ganser mae dyn ifanc o Wynedd wedi disgrifio'r profiad o gael ei goroni'n bencampwr seiclo Cymru fel un "hollol amazing".

Bu'n rhaid i Sam Woodward, sy'n 19 oed ac o Waunfawr ger Caernarfon, ddysgu sut i gerdded eto ar ôl cael llawdriniaeth sylweddol ar ei goes yn 2023.

Ond gyda chefnogaeth ei glwb seiclo, mae o rŵan yn gobeithio hel digon o noddwyr i droi'n broffesiynol.

Mi ddaeth Sam i’r brig mewn cystadleuaeth ym mis Medi yn Llandrindod a chael ei goroni’n bencampwr Cymru.

Fe ddechreuodd seiclo ar hyd lonydd ei fro ar ôl ymuno â chlwb beicio Egni Eryri rhai blynyddoedd yn ôl.

"Nes i orffen job fi fel saer coed i concentrateio mwy ar seiclo," meddai, "ac ers hynna dwi 'di cael lle ar Tîm PB Performance a rili wedi gallu focusio ar seiclo lot mwy."