'Pen-blwydd hapus Cymru Fyw'
Ar 22 Mai 2014 fe anwyd Cymru Fyw - gwasanaeth ar-lein newydd ac unigryw Cymraeg.
Erbyn heddiw mae darllen y newyddion diweddaraf ac erthyglau nodwedd fel 'Ateb y Galw' ynghyd ag ateb ambell gwis - i gyd am Gymru ac yn y Gymraeg - yn rhan o batrwm dyddiol degau o filoedd.
Mae sawl wyneb cyfarwydd wedi dymuno'n dda i'r gwasanaeth wrth iddo nodi'r pen-blwydd arbennig.