Dathlu cysylltiadau Cymru a Norwy yng Nghaerdydd
Bob blwyddyn ar 17 Mai, mae diwrnod cenedlaethol Norwy yn cael ei ddathlu o fewn y wlad yn ogystal â ledled y byd gan Norwyaid, gan gynnwys dathliad ym Mae Caerdydd.
Dydd y Cyfansoddiad ar 17 Mai yw diwrnod i ddathlu ysgrifennu cyfansoddiad Norwy yn 1814, yn ystod cyfnod byr o annibyniaeth ar ôl i’r undod rhwng Denmarc a Norwy ddod i ben.
Mae Cymdeithas Cymru Norwy a Chanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd yn trefnu digwyddiadau i ddathlu’r cysylltiadau hanesyddol rhwng Norwy a Chymru, gyda’r ganolfan yn symbol o’r cysylltiadau yma.
Dywedodd Wenche, sy'n wreiddiol o Norwy ond bellach yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fod yr "eglwys hwn yn hyfryd i fi, achos mae e fel home from home".