Bellamy wedi llwyddo i roi gobaith i bob chwaraewr Cymru - OTJ

Mae rheolwr newydd Cymru, Craig Bellamy wedi mwynhau cychwyn calonogol iawn i'w gyfnod wrth y llyw, wrth ennill dwy a chael dwy gêm gyfartal.

Bellamy yw'r rheolwr cyntaf yn hanes Cymru i osgoi colli yn ei bedair gêm gyntaf.

Yn ogystal â chael ei blesio gan arddull y chwarae, mae cyn-chwaraewr Cymru, Owain Tudur Jones hefyd yn edmygu sut mae Bellamy wedi gallu datblygu ysbryd arbennig yn y garfan drwy roi cyfle i gymaint o chwaraewyr - cyfanswm o 24 i gyd dros y bedair gêm.

"Be' wyt ti'n gael yn ôl wedyn ydy chwaraewyr fydd yn barod i roi rwbath i chdi," meddai Jones.

Gwrandewch ar Y Coridor Ansicrwydd ar BBC Sounds