Teyrnged Angharad Llwyd i'w mam Leah Owen

Bu'r actores Angharad Llwyd yn rhoi teyrnged i'w mam, Leah Owen, mewn sesiwn yn cofio amdani yn y Pafiliwn nos Wener.

Bu farw Leah Owen - un o ffigyrau amlycaf y byd canu Cymraeg - yn 70 oed ym mis Ionawr.

Dywedodd Angharad Llwyd y cafodd casgliad ei lansio er cof am Leah Owen ddechrau'r flwyddyn, a hynny i godi arian i'w rannu rhwng y nyrsys a'r gofalwyr "a fu mor garedig efo hi yn ei wythnosau olaf", a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Mae'r teulu felly wedi gallu cyflwyno £5,000 i'r Eisteddfod er mwyn sefydlu tlws coffa yn ei henw yn y brif gystadleuaeth i gorau cerdd dant - cystadleuaeth yr enillodd hi droeon gyda'i chorau.