'Llai o stigma' wrth i fwy gael presgripsiwn gwrth-iselder
Fe ddechreuodd Gethin Bennett, sy'n 32 oed, gymryd tabledi gwrth-iselder ar ôl dioddef yn sgil hunanladdiad ei dad.
Cafodd dros saith miliwn o bresgripsiynau eu rhoi yng Nghymru ar gyfer gwrth-iselder yn 2022-23 o gymharu â 2.1m yn 2002-03.
Mae Gethin, sy'n byw yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, yn credu bod llai o stigma o amgylch iechyd meddwl ac nad yw'r ffigyrau newydd o reidrwydd yn beth drwg.
Mae Mind Cymru wedi galw am weithredu brys ac mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod strategaeth iechyd meddwl newydd yn cael ei chyhoeddi'n y gwanwyn.