'Braint cael ffurfio gwaith cerdd dant cwbl unigryw'

Wedi wythnosau o baratoi fe fydd “gosodiad cerdd dant na welwyd ei debyg o’r blaen” yn cael ei berfformio yn Aberystwyth nos Sadwrn fel rhan o gyngerdd cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a’r Fro 2025.

Mae Bethan Bryn wedi gosod hanes y geni ar gerdd dant ac mae’n gobeithio y bydd y cyfan yn “rhoi gwedd newydd ar hen hen stori”.

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Bethan: "Dwi wedi bod ers rhai blynyddoedd eisiau rhoi stori o’r Beibl ar gerdd dant – tebyg i oratorio a’r stori symlaf i wneud oedd stori’r geni.

“Mae’r cyfan wedi gweithio yn ardderchog ac mae’r ymarferion wedi bod yn hynod hapus.

“Be dwi’n obeithio yw y bydd rhywun yn edrych ar stori’r geni o’r newydd.”