Rob McElhenney yn croesawu'r Eisteddfod i Wrecsam yn Gymraeg

Fe wnaeth Rob McElhenney ymuno â'r newyddiadurwraig Maxine Hughes i ymarfer ei Gymraeg cyn dechrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.

Ers dod yn gyd-berchennog ar Glwb Pêl-droed Wrecsam yn 2020, mae McElhenney a Ryan Reynolds wedi ceisio dysgu mwy am hanes a diwylliant Cymru, ac roedd yn amlwg yn falch o weld y brifwyl yn dod i Wrecsam.

"Mae'n anrhydedd cael profi diwylliant Cymru – harddwch y celfyddydau, yr iaith a'r bobl – yn nhref Wrecsam. Mae'n mynd i fod yn hollol wych," meddai.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn ardal Is-y-coed ger Wrecsam rhwng 2 a 9 Awst 2025.