'Creu cymdeithas' mewn campfa ar fferm yng nghefn gwlad

Mae ffermwr wedi creu campfa ar fferm yng nghanol cefn gwlad y gogledd, gyda'r gobaith o roi hwb i'r corff a’r enaid i bobl yr ardal.

Mae Robin Jones wedi creu ei gampfa ar Fferm Pen y Garth ger Yr Wyddgrug.

Drwy gyplysu defnyddio offer fferm ac offer ymarfer modern, mae campfa Farm Fit wedi dod yn hynod boblogaidd.

Erbyn hyn mae dros 80 o bobl o bob oed yn ymarfer yno’r gyson, ac maen nhw hefyd yn darparu cymorth i blant sydd ag anghenion arbennig ac awtistiaeth.