Heddlu'r Gogledd: 'Gwyrthiol na chafodd neb ei ladd'

Mae dyn 55 oed o Brestatyn wedi cael dedfryd o 15 mis o garchar wedi'i gohirio wedi iddo ei gael yn euog o yrru yn beryglus ar yr A55.

Clywodd y llys bod Paul Woodward wedi taro car gyrrwr arall ar ôl i hwnnw ei basio fis Medi y llynedd.

Dywedodd yr heddwas Haydn Roberts-Powell ar ran Heddlu'r Gogledd bod yr achos yn un o gythraul gyrru a'i bod yn wyrthiol na chafodd rywun ei ladd.

Dyma fideo a ryddhawyd o'r digwyddiad.