Drama radio am driniaeth IVF

Cafodd Garej Ni gan Rhiannon Wyn ei darlledu ar BBC Radio Cymru. Drama am gwpl ifanc sy'n mynd drwy driniaeth IVF yw Garej Ni. Mae'r cwpl yn gorfod gwneud yr un daith drosodd a throsodd, yn llythrennol a throsiadol, ar hyd yr A55 i dderbyn triniaeth IVF yn Uned Hewitt, Ysbyty Merched Lerpwl.

Ar y daith hon, mae'r cwpl yn stopio yn yr un garej bob tro.

Nid yw'r stori hon yn bell o wirionedd profiad Rhiannon ei hun:

"O'n i wastad wedi bod isio siarad am y profiad ond do'n i ddim yn siŵr ym mha gyfrwng i wneud. Mae sgwennu drama am brofiad mor bersonol wedi bod yn gathartig..."

Ond un peth oedd yn bwysig iddi wrth ysgrifennu oedd gonestrwydd: "Ar y daith IVF mae 'na benderfyniadau anodd, mae 'na sgyrsiau anodd rhwng y sawl sy'n mynd drwy'r profiad. Yn anffodus dim ond un o ddau ganlyniad sydd mewn taith o'r fath felly o'n i eisiau taflu goleuni ar hynny."

Mae Garej Ni ar gael ar BBC Sounds nawr.