Lleoliadau cerddorol Caerdydd 'mor bwysig' i'r ddinas

Mae prif leisydd y band CHROMA ymhlith nifer o artistiaid sy'n galw am wneud mwy i amddiffyn lleoliadau cerddoriaeth fyw y brifddinas.

Fe ddaw'r rhybudd wythnosau ar ôl i leoliad The Moon ar Stryd Womanby gau ei ddrysau am y tro olaf.

"Fi'n rili becso am fandiau newydd... Mae chwarae'n fyw mor bwysig i unrhyw fand nawr, dyna le 'da chi'n cael rhan fwyaf o elw chi," meddai Katie Hall

"Fi'n gweld bod e'n amazing bod gigs lot mwy o seis yn dod i'r ddinas, ond ma' angen i ni gofio lle ma'r artistiaid yna wedi dechrau.

"Mae angen i ni roi mwy o bwyslais ar roi'r gefnogaeth yna i grassroots venues, achos pan 'ma nhw yn mynd, 'dyn nhw ddim yn dod nôl."

Yn ôl Cyngor Caerdydd mae strategaeth hir dymor yn ei lle i gefnogi, datblygu a hyrwyddo sector cerddorol y ddinas.