Codi ymwybyddiaeth o glefyd Parkinson's drwy bêl-droed

Fe fydd clwb pêl-droed o Gaerdydd yn herio timau o ar draws Ewrop mewn cystadleuaeth yn Norwy y penwythnos hwn ar gyfer pobl sy’n byw gyda chlefyd Parkinson's.

Mae pob chwaraewr yn nhîm Phoenix 681 naill ai'n byw gyda'r cyflwr neu wedi’u heffeithio ganddo.

Mae clefyd Parkinson's yn effeithio ar tua 153,000 o bobl yn y DU, ac ar hyn o bryd, nid oes meddyginiaeth sy’n gallu cynnig gwellhad llwyr i’r cyflwr.

Gobaith Antony Evans, un o sylfaenwyr a rheolwr y tîm, sydd wedi byw gyda’r cyflwr ers 10 mlynedd, yw y bydd y tîm yn help codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

Wrth drafod y gystadleuaeth ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru, bu'n esbonio pam fod y rhif 681 wedi ei gynnwys yn enw'r clwb.