'Syrffio wedi fy helpu i ddelio gyda heriau bywyd'
Mae grŵp syrffio i bobl canol oed yn ardal Abertawe wedi helpu i newid bywydau pobl, yn ôl rhai o'r aelodau.
Cafodd y grŵp ei sefydlu y llynedd, ac erbyn hyn mae'r dosbarthiadau, sy'n cael eu cynnal pob ddydd Sul, yn llawn.
Yn ôl Cenydd Thomas, 47 oed o Abertawe, mae ymuno a'r grŵp wedi helpu iddo ddelio gyda gwahanol heriau yn ei fywyd personol.
"Mae bod yn rhan o'r grŵp wedi fy helpu i feddwl am fywyd mewn ffordd mwy positif, ac mae'n helpu fi ddelio gyda sialensiau yn fy mywyd o ddydd i ddydd", meddai.
Pan adawodd Cenydd Thomas y fyddin, roedd eisiau bod yn rhan o rywbeth oedd yn cynnig heriau corfforol a meddyliol iddo.
Fe ddaeth ar draws grŵp 'Ocean Therapy' ac fe benderfynodd y byddai'n ymuno er mwyn dysgu syrffio.
"Un peth nes i ddysgu pan nes i adael y fyddin oedd ei bod hi'n bwysig cadw routine, a fi'n credu bod ymuno gyda rhywbeth fel hyn wedi fy helpu i deimlo'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol", meddai.
Yn ôl Cenydd, mae mentro y tu allan ac ymwneud a natur trwy gydol y flwyddyn yn bwysig iawn i'w iechyd meddwl.
"Fi'n credu fod bod y tu allan - yn enwedig yn y Gaeaf pryd mae lot o gyfleoedd i aros mewn a bod yn y tŷ a theimlo bach yn isel - yn dda i'ch hunan hyder ac yn helpu creu iechyd meddwl cryf."