'Pwysigrwydd' pasio caneuon gwerin Cymru ymlaen i'r genhedlaeth nesaf

Mae Mari Mathias yn disgrifio ei cherddoriaeth fel "gwerin gyfoes", neu caneuon gwerin gyda "bach o dwist".

"Mae lot o'r caneuon dwi'n 'neud yn cymryd ysbrydoliaeth o'r archif, ond hefyd, rhywbeth sydd wedi cael ei basio ymlaen i fi drwy'r teulu," meddai.

Aeth yr artist gwerin o Geredigion ati i ymchwilio mwy am ganeuon gwerin Cymreig ar ôl darganfod tapiau casét ei hen thad-cu yn canu caneuon traddodiadol ac adrodd hen straeon lleol.

Bellach, mae ei thaith gerddoriaeth gwerin wedi ei chymryd hi mor bell ag India, lle fuodd hi'n perfformio mewn dwy ŵyl werin wahanol.

"Oedd e'n brofiad anhygoel cael canu yn yr iaith Gymraeg i bobl sydd heb glywed am Gymru o'r blaen, a chael cysylltu gyda'r hunaniaeth yma o iaith, traddodiad, a hanes y straeon", meddai.