Gwiber wedi'i gweld ar draeth Morfa'r Garreg ym Mhwllheli

Cymrwch ofal os fyddwch chi'n mynd i'r traeth ym Mhwllheli yn fuan.

Gwelodd Raymond Vaughan Jones y wiber (adder) yma ar draeth Morfa'r Garreg brynhawn Sul.

Y wiber yw'r unig neidr wenwynig yn y DU, ond fel arfer nid yw ei gwenwyn yn beryglus i bobl.

Mae gwiberod fel rheol i'w gweld ar dir agored fel rhostiroedd a choetiroedd, ac yn anaml iawn ger y glannau.