Y Sioe Arddwriaeth wedi ailagor ar ei newydd wedd

Wedi blwyddyn o saib, mae'r Sioe Arddwriaeth yn ôl yn y Sioe Frenhinol eleni.

Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd, yw'r dirprwy gyfarwyddwr er anrhydedd ar gyfer yr arddwriaeth, a'i waith yw cydweithio â'r gwirfoddolwyr i "dynnu'r sioe 'ma at ei gilydd - y pentref garddwriaeth."

Ni chafodd y Sioe Arddwriaeth ei chynnal y llynedd, penderfyniad "anodd" ac "amhoblogaidd" medd Adam Jones.

Ond dywedodd ei fod "wedi cael y cyfle i ailwampio'r ardal, i edrych ar y cystadlaethau, y cysyniad yma i gyd" wrth i'r sioe arddwriaeth ddychwelyd eleni.

Dywedodd ei fod eisiau "ysbrydoli pobl ar sut i fynd ati i arddio" wedi iddyn nhw adael y Sioe.

Wrth sôn am yr ardal, dywedodd: "Ma' fe'n bentre’, ma' fe'n brofiad... yn arddwriaeth yn ei gyfanrwydd."