Eisteddfod yr Urdd: 'Hel pobl fel defaid' at y Maes

Mae dros 170 o wirfoddolwyr ar y Maes ei hun a chriw ar wahân yn gwarchod y maes parcio a'r maes carafanau, yn ôl Emyr Wyn Jones, Prif Stiward yr Urdd eleni.

Mae rhan fwyaf o'r gwirfoddolwyr yn ffermwyr lleol, meddai Emyr, a byddan nhw'n "hel pobl fel defaid" tuag at y Maes.

"'Da ni'n ffodus iawn, mae 'na ddigon o dir ar gael," meddai.

"O un pen i'r llall o'r meysydd parcio mae'n chwarter milltir... does genna ni ddim pedwar neu bump o gaeau, just dau gae mawr a dwy fynedfa fawr - mae'n hwyluso'r gwaith yn arbennig.

"Ar y meysydd parcio eu hun, y cyngor gorau yw gewn ni fashion show efo'r wellies achos gennym ni ddigon o laswellt ar y caeau.

"A'r rheswm am hynny ydy neith y tir wedyn ddim torri fyny pan mae cerbydau'n mynd drosto fo - mae hynny'n fwy pwysig i ni wrth drefnu'r maes parcio na chael tir sych i'r bobl efo sgidiau crand."

Ychwanegodd Emyr fod y gwirfoddolwyr yn "arbenigwyr ar y tywydd ym Mathrafal" ar ôl i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei ddal yna'n 2003 a 2015.

"'Da ni'n gwybod lle 'da ni ddim eisiau gweld cymylau du'n dod o," meddai.

"Mae rhai cymylau du just yn pasio heibio, i ffwrdd am Lanfair Caereinion a Chastell Caereinion a'r Trallwng, ond ni ddim yn licio cymylau du o Lyn Efyrnwy."