Angharad James: 'Dwi'n arwain trwy esiampl'

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Angharad James yn dweud ei bod hi'n "arwain drwy esiampl yn hytrach na siarad lot".

Roedd hi'n siarad cyn iddi arwain y tîm fel capten yn erbyn Kosovo nos Fawrth ym Mharc y Scarlets yn Llanelli.

Dywedodd: "Mae ganddon ni chwaraewyr sy'n dod trwyddo ar hyn o bryd sy' 'di stepio fyny a mae'n grêt i'r dyfodol."