Eluned Morgan: Gobeithio y bydd menyw 'ar flaen y gad'

Mae Eluned Morgan wedi cadarnhau y bydd hi'n sefyll i olynu Vaughan Gething fel arweinydd Llafur Cymru.

Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd ddydd Llun fod "mwyafrif" y 30 o aelodau sydd gan y blaid yn y Senedd yn ei chefnogi – gan gynnwys y cyn-ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth, Jeremy Miles.

Dywedodd Ms Morgan y byddai’n cynnig platfform unedig gyda’i chyd-aelod o’r cabinet, Huw Irranca-Davies, yn rhedeg fel ei dirprwy.

Hi yw'r unig berson i ddatgan hyd yn hyn eu bod am fynd am y swydd, gyda'r cyfnod ar gyfer enwebiadau yn cau am 12:00 ddydd Mercher.

Os yn fuddugol, Ms Morgan fyddai'r fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru.

Wrth lansio ei hymgyrch yn swyddogol ar faes y Sioe Fawr brynhawn Llun, ei bod hi'n "gobeithio y bydd menyw ar flaen y gad".

"Mae menywod yn gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol, ac mae hyn yn enghraifft o wneud pethau mewn ffordd wahanol.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n uno gyda'n gilydd, dwi'n meddwl bod talent gwirioneddol gyda Huw (Irranca-Davies) a dwi'n meddwl bo' ni'n gryfach gyda'n gilydd."