‘Rhaid cymryd ein cyfleoedd’ – Dewi Lake

Mae capten Cymru Dewi Lake yn deud mae’n rhaid i’w garfan cymryd cyfleoedd i ennill gemau ar ôl colli nawfed gêm yn olynol yn erbyn Awstralia yn Melbourne.

Ar ôl dwy gais gan Lake ac un yr un i asgellwyr Liam Williams a Rio Dyer mi oedd Cymru dal yn y gêm gyda 5 munud yn weddill ond fe gollodd dîm Warren Gatland o 36-28.

Bydd Cymru yn gorffen y daith i Awstralia gyda gem yn erbyn y Queensland Reds yn Brisbane nos Wener.