Canser y coluddyn: 'Dipyn o daith' i Euros Davies
Mae Euros Davies yn ystyried ei hun yn ddyn "eitha' ffit" sy'n hoffi cerdded a chwarae sboncen ac wedi "cadw pwysa' eitha' iach".
Fel pawb yng Nghymru sydd rhwng 51 a 74 oed, fe dderbyniodd brawf trwy'r post haf diwethaf er mwyn ei sgrinio am ganser y coluddyn.
"Aeth y peth yn angof" am bum mis nes iddo ddod ar draws y prawf ddechrau'r flwyddyn.
Wrth anfon sampl trwy'r post ddiwedd Ionawr, doedd dim amheuaeth ganddo y byddai'r canlyniad, a gyrhaeddodd ddeuddydd yn ddiweddarach, yn bositif.
Mae Euros, sy'n byw yn Rhosfawr ger Pwllheli, adref yn gwella erbyn hyn ar ôl llawdriniaeth i dynnu rhan o'r coluddyn bach.
Gan nad oedd yna unrhyw symptomau o gwbl, mae o'n amau y byddai'r cyflwr wedi datblygu i lefel ddifrifol iawn cyn y byddai wedi dod i'r amlwg bod canser arno, oni bai ei fod wedi cymryd y prawf.
Mae'n apelio ar bawb i fanteisio at y sgrinio sy'n cael ei gynnig am ddim i bobl o'r oedran perthnasol bob dwy flynedd.