Merch 17 oed o Gaerdydd i gystadlu yn y Gemau Olympaidd

Am y pumed tro yn unig yn hanes y Gemau Olympaidd, mi fydd 'na Gymraes yn cystadlu yn y gymnasteg.

Mae Ruby Evans o Gaerdydd wedi ei chynnwys yn nhîm Prydain ar gyfer y Gemau ym Mharis yn yr haf.

Er mai dim ond 17 mlwydd oed ydi hi, mae Ruby eisoes wedi ennill medal arian fel rhan o dîm Prydain ym Mhencampwriaethau Ewrop yn gynharach eleni.

Fe ddechreuodd wneud gymnasteg yn y gampfa pan oedd hi’n bum mlwydd oed, cyn symud ymlaen i berffeithio ei champ yn Chwaraeon Cymru.