Cannoedd o ddisgyblion cynradd yn ymuno â Bws Beic i'r ysgol
Mae disgyblion o ysgolion yng Nghaerdydd wedi bod yn seiclo i'r ysgol mewn grŵp mawr, mewn ffordd sy'n hwyl a diogel.
Mae beicio mewn grwpiau mawr yn gwneud seiclo ar hyd y ffyrdd yn fwy diogel, meddai'r trefnwyr.
Mae Bike Bus World, grŵp o'r Unol Daleithiau sydd eisiau i fwy o blant seiclo i'r ysgol, yn dweud bod bysiau beicio o'r fath yn tyfu dros y byd, gan gynnwys yng Nghymru.
Dywed y plant o ysgolion Pwll Coch, Treganna a Radnor Road, eu bod yn mwynhau teithio i'r ysgol gyda'i gilydd a chanu caneuon, fel Yma o Hyd, ar hyd y ffordd.
Mae rhieni'n gwirfoddoli fel marsialiaid, ac mae mannau ac amseroedd cyfarfod wedi'u pennu.
"Mae'n ffordd wirioneddol hwyliog a llawen i blant gyrraedd yr ysgol," meddai Sam Balto, athro Addysg Gorfforol o Portland, Oregon, a chyd-sylfaenydd Bike Bus World.