Prentisiaethau'r Urdd yn 'stori o lwyddiant mawr'
Mae'r Urdd yn dweud bod 1,000 o bobl wedi elwa yn y deng mlynedd ers sefydlu eu cynllun prentisiaeth.
"Mae'r cynllun wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn i lawer iawn o unigolion," meddai pennaeth prentisiaethau'r Urdd, Catrin Davis.
"Mae'n stori o lwyddiant mawr fyddwn i'n dweud – ni’n gallu gweld nawr datblygiad nifer o'n prentisiaid ni ers sawl blwyddyn bellach yn mynd mas i'r byd gwaith, a'r cyfleoedd ma' nhw'n derbyn oherwydd bod nhw 'di llwyddo cwblhau prentisiaeth gyda'r Urdd."
Fe ddechreuodd y cynllun yn y sector chwaraeon, ond mae bellach yn cynnig cyfleoedd hyfforddi mewn nifer o feysydd gwahanol gan gynnwys y sector hamdden, gwaith ieuenctid a gofal plant.
Ymunodd Sion Fitzgerald â'r cynllun yn ddiweddar gan nad oedd yn teimlo'n barod i fynd i'r brifysgol.
Dywedodd fod y brentisiaeth yn "siawns da i weithio yn y Gymraeg a bod yn yr awyr agored 'fyd - dau beth o'n i'n teimlo sy'n bwysig i fi".