Y Coridor Ansicrwydd: 'Abertawe mewn trafferthion'

Mae Abertawe yn wynebu cyfnod allweddol mewn tymor sy'n dirywio ar raddfa ddychrynllyd, yn ôl cyn chwaraewr y clwb Owain Tudur Jones.

Chwarae saith, colli chwech ac un gêm gyfartal ydi record druenus yr Elyrch yn 2025. Dim ond saith pwynt sydd bellach yn gwahanu tîm Luke Williams o'r safleoedd disgyn yn y Bencampwriaeth.

Ar ben hyn, mae'r capten Matt Grimes wedi gadael am Coventry City, gyda nifer o'r cefnogwyr yn datgan ei hanfodlonrwydd mai dau chwaraewr newydd yn unig ymunodd yn ystod y ffenestr drosglwyddo.

"Fel mae pethau rŵan, maen nhw mewn trafferthion," meddai Jones ar y bennod ddiweddaraf o Y Coridor Ansicrwydd, dolen allanol wrth gyfeirio at safle Abertawe yn y Bencampwriaeth.

"Dydyn nhw ddim jyst yn sbïo dros eu hysgwydd, mae'r timau eraill ar eu hysgwydd nhw - maen nhw yna yn deud 'helo' reit yn eu clustiau nhw."

Ategodd Malcolm Allen: "Dwi'n cydymdeimlo efo Luke Williams. Chafodd o ddim help gan neb yn y ffenestr drosglwyddo yma."