Pedair - Tua Bethlem Dref
Fel rhan o ddathliadau'r Nadolig, dyma berfformiad arbennig o Tua Bethlem Dref gan Pedair.
Cafodd y gân ei pherfformio'n arbennig ar gyfer BBC Cymru Fyw a BBC Radio Cymru yn Eglwys Sant Ioan yn Nhreganna, Caerdydd.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym, Gwenan Gibbard a Siân James wrth i'w halbwm newydd, Dadeni gael ei ryddhau ddiwedd mis Tachwedd.
Nadolig Llawen i chi gyd gan griw BBC Cymru Fyw.