Dysgwr 'eisiau bod yn rhan o'r Eisteddfod' yn stiwardio

Fe wnaeth Kelvin Jones o'r Rhondda dechrau ailddysgu'r Gymraeg yn ystod y cyfnod clo.

Mae o bellach yn stiwardio yn y Brifwyl ym Mhontypridd, ar ôl "eisiau bod yn rhan o'r Eisteddfod" yn ei filltir sgwâr.

Pan dyw Kelvin ddim yn stiwardio, mae o'n mwynhau crwydro ar hyd y maes a gwrando ar y corau.

Fe fydd o hefyd yn brysur fore Gwener, gan helpu dysgwyr eraill mewn lolfa goffi yn y porth ar y Maes.

Fel rhywun sydd wedi dysgu fel oedolyn, mae Kelvin yn credu ei bod hi'n "bwysig i'r plant yn yr ysgol hefyd i ddysgu eu hiaith nhw".

Mae Kelvin yn edrych ymlaen at ddechrau dysgu ar gwrs uwch lefel tri ym mis Medi.