Eurovision: Cysylltiadau â Chymru
A fyddwch chi'n gwylio'r Eurovision y penwythnos yma?
Er nad yw Cymru erioed wedi cystadlu, mae 'na ambell Gymro a Chymraes wedi perfformio yn y gorffennol gan gynnwys Bonnie Tyler yn 2013, Lucie Jones yn 2017, Mary Hopkin yn 1970 ac yn 1976 fe wnaeth Nicky Stevens ennill y gystadleuaeth fel rhan o'r grŵp Brotherhood Of Man.
Ond mae Cymru wedi cystadlu fel gwlad yn y Junior Eurovision ac yn y Choir Eurovision.
Llynedd roedd 'na ymgyrch yn galw ar Gymru i gystadlu fel gwlad ar wahân i'r Deyrnas Unedig yn y brif gystadleuaeth.
Hoffech chi weld Cymru a hyd yn oed cân Gymraeg yn cystadlu yn y dyfodol?