Uchafbwyntiau: Gogledd Macedonia 1-1 Cymru
Wedi diweddglo dramatig, fe gafodd Cymru gêm gyfartal yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 oddi cartref yn erbyn Gogledd Macedonia.
Bu'r tîm yn chwarae o flaen 2,000 o gefnogwyr Cymru yn arena Todor Proeski, Skopje nos Fawrth.
1-1 oedd y sgôr terfynol gyda David Brooks yn sgorio yn y funud olaf.