'Fi methu credu dwi'n number 1 yn y chart reggae ar iTunes'
Mae cân Gymraeg wedi cyrraedd brig siartiau reggae iTunes am y tro cyntaf erioed.
Mae Dod o'r Galon yn gân gan y gantores adnabyddus, a'n fwyaf diweddar yn un o feirniaid cystadleuaeth Y Llais, Aleighcia Scott.
Dywedodd Aleighcia ei bod hi'n "anhygoel" gallu rhoi'r Gymraeg ar "y llwyfan rhyngwladol".
Dywedodd hefyd ei bod wedi "gwireddu breuddwyd yn cymysgu cerddoriaeth Jamaica gydag iaith ac enaid Cymru".