Ymateb Trystan ac Emma i glip archif o Eden yn 1995

Yn ôl yn 1995 roedd Eden fel rydan ni'n eu hadnabod nhw heddiw ddim yn bodoli fel grŵp, ond mi oedd Cola!

Fe lwyddodd tîm rhaglen Trystan ac Emma i ddod o hyd i glip archif o'r merched ar raglen This Morning (ITV) yn 1995. Roedden nhw'n ymddangos ar y rhaglen i gael "makeover" am bod y grŵp eisiau "look".

Dangosodd y tîm y clip i Trystan ac Emma... gwyliwch eu hymateb!

Gallwch glywed mwy am hanes Eden yn eu sgwrs gyda Trystan yng nghyngerdd Eden a'r Gerddorfa sydd ar gael ar BBC Sounds.