'Pawb yn bositif ar ôl gêm gyntaf Bellamy'

Bydd carfan pêl-droed dynion Cymru yn herio Montenegro oddi cartref nos Lun, gan obeithio adeiladu ar y gêm gyfartal yn erbyn Twrci.

Er nad oedd buddugoliaeth, roedd teimlad fod cyfnod newydd, cyffrous ar ddechrau yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.

Hon oedd gêm gyntaf Craig Bellamy wrth y llyw - ac mae cefnogwyr Cymru mewn hwyliau da yn Podgorica, prifddinas Montenegro.

Roedd Cymru'n chwarae ar y droed flaen, ac fe allen nhw'n hawdd fod wedi trechu Twrci.

Taith oddi cartref i Montenegro sy'n wynebu'r garfan nos Lun, ond yn wahanol i nos Wener, y disgwyliad yn sicr yw buddugoliaeth i Gymru.