Gwyliwch: Y Prif Weinidog Eluned Morgan yn canu anthem Japan
Mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, wedi canu anthem genedlaethol Japan yn lansiad Blwyddyn Cymru a Japan.
Daw wedi i lysgennad Japan i'r DU, Hiroshi Suzukihas, bostio fideo ohono'n canu Hen Wlad Fy Nhadau wrth iddo baratoi i ymweld â Chymru.
Cafodd y fideo ei rannu gyda'r neges: "Looking forward to my trip to [baner Cymru]. Hwyl, gweld chi'n fuan!"
Llysgennad Japan yw'r cyntaf i roi cymeradwyaeth iddi.
Roedd y digwyddiad ddydd Iau yn lansio ymgyrch newydd i greu rhagor o bartneriaethau economaidd a diwylliannol rhwng Cymru a Japan.