Enwi trên yn Mistar Urdd wrth i'r Eisteddfod agosáu
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio trên newydd sbon wedi'i enwi ar ôl un o eiconau mwyaf y Gymraeg – Mistar Urdd.
Aeth y trên ar ei daith gyntaf gyda'r enw newydd ddydd Mercher, gan deithio o Gaerdydd i Ddoc Penfro, a stopio ym Mhort Talbot.
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ym Mharc Margam yn y dref ddiwedd Mai.
Roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan, Siân Lewis o'r Urdd, ac Ysgol Tyle'r Ynn yno i groesawu'r trên.