Diffoddwyr yn delio â thân mewn coedwig ger Machynlleth

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn delio â thân mawr mewn coedwig yng ngogledd Powys.

Cafodd tua 30 o ddiffoddwyr eu galw i'r digwyddiad yng Nglaspwll ger Machynlleth nos Iau yn dilyn adroddiadau bod tân gwair wedi lledu i ardal goediog.

Gyda'r tân yn parhau i losgi ddydd Gwener, fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru alw criwiau arbenigol i helpu gyda'r gwaith.

Mae hofrennydd wedi cael ei ddefnyddio i ollwng dŵr ar y fflamau, tra bod Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd hefyd wedi anfon un criw i'r digwyddiad.