Y celfyddydau yn 'dioddef' oherwydd toriadau

Mae'r celfyddydau yn wynebu sefyllfa "hollol drasig", yn ôl y gantores a'r cyflwynydd Caryl Parry Jones.

Yn siarad ar faes Eisteddfod yr Urdd, dywedodd ein bod mewn "cyfnod lle mae'r celfyddydau yn dioddef".

"Maen nhw'n diodde' yn ariannol, maen nhw'n diodde' o ran yr agwedd tuag at y celfyddydau," meddai.

"Mae'r celfyddydau wastad yn rhywbeth maen nhw'n meddwl allan nhw dorri lawr arna fo; gwersi cerddoriaeth, dim ots am hynna; theatrau'n cau.

"Mae o'n drasig. Mae o'n hollol drasig."

Ond dywedodd ei bod yn falch o weld menywod yn amlygu eu hunain "yn fwy ac yn fwy" yn y celfyddydau, er gwaethaf yr heriau sy'n wynebu'r diwydiant.

Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am y celfyddydau, Jack Sargeant, fod Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi pecyn ariannol o £15m ar gyfer y sector.