'Dod â phobl sydd wedi profi caethiwed i'r mynyddoedd'

Mae grŵp o 60 o bobl sydd wedi rhoi’r gorau i gyffuriau ac alcohol wedi dod at ei gilydd i ddringo un o fynyddoedd Eryri i ddangos bod ‘na obaith i’r rheini sy’n parhau’n gaeth.

Teithiodd pobl o sawl rhan o Gymru a Lloegr i Feddgelert er mwyn dringo Moel Hebog.

Gwasanaeth cymorth lleol, Sober Snowdonia drefnodd y daith er mwyn dangos sut mae natur yn gallu helpu pobl.

Roedd y daith hefyd yn gyfle iddyn nhw greu cysylltiadau newydd a rhannu eu profiadau gyda’i gilydd.

"Syniad Sober Snowdonia ydy i ddod â phobl efo'r salwch 'ma i mewn i'r mynyddoedd," medd un o'r arweinwyr Rob Havelock.

"Ac i fi gael rhannu faint o gymorth mae 'di bod i fi efo pobl eraill.

"Yr unig le o'n i'n fodlon cerdded i o'r blaen oedd y tŷ tafarn neu i brynu cyffuriau, a rŵan 'dw i wrthi'n cerdded y mynyddoedd yma i gyd."