Arwain Cymru yn 'foment gwych' i Angharad James
Mae Angharad James yn dweud fod cael y cyfle i fod yn gapten ar Gymru yn erbyn Wcráin yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025 nos Wener yn anrhydedd anferth.
James fydd yn arwain y tîm, gyda’r rheolwr Rhian Wilkinson dal heb benderfynu pwy fydd yn gwneud y rôl yn barhaol ar ôl i Sophie Ingle gamu lawr fel capten cyn dechrau’r ymgyrch.
Mae Cymru ar frig eu grŵp ar ôl ennill eu dwy gêm gyntaf yn erbyn Croatia a Kosovo.